angelygogledd: (Default)
Angel Y Gogledd ([personal profile] angelygogledd) wrote2019-12-02 08:37 pm

perthnasoedd ffeministaidd - meddyliau 2

Rwy'n ysgrifennu darnau byr oherwydd rwy wedi torri fy mhenelin chwith. Mae'n dolurus ar hyn o bryd, ac ni allaf deipio heb poen.




I fi, mae'n pwysig bod perthynas yn seiliedig ar syniadau iach. Sylfaenol i'm ffydd Cristion ydy syniad o iachawdwriaeth a'r person cyfan. Mae'n taith gydol oes, a dyn ni ddim yn ei chyflawni ar yr un pryd. DS - fy syniadau o'r iachawdwriaeth ddim yn adlewyrchu yn yr holl syniadau o'r Fyddin Iachawdwriaeth.

mae'r hyn sy'n ddewisol ar gyfer un, yn sylfaenol i un arall - syniadau am rhyweddau a rhywioldebau er engraifft. Mae ffrindiau 'da fi sy'n draws, ac maen nhw wedi gwneud llawer o archæoleg emosiynol yn ymwneud â hon. Does dim ots i rhai ohonyn nhw a yw eu rhywioldeb, dyna ydyw. Hunan-amlwg, nid yw hyn yn wir i bawb.

Sut ry'm ffindio iachawdwriaeth dibynnu ar y person - rwy wedi ffindio iechyd trwy athroniaeth, diwinyddiaeth a seicotherapi. Mae encilion, teithiau hir gyda Wen, ac amser tawel yn helpu fy ffydd a'm iechyd. Ond mae'n pethau moethus yn hynny.

Maen nhw'n dibynnu ar amser, arian, a chefnogaeth o'r teulu, neu waith. Yn y geiriau VIrginia Woolf "A room of one's own and £500 a year". Rwy'n lwcus iawn. Does dim lot o arian gyda ni, ond mae [personal profile] gwyddno yn fy nghefnogi.

Post a comment in response:

This account has disabled anonymous posting.
If you don't have an account you can create one now.
No Subject Icon Selected
More info about formatting